Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Syniadau teithiau cerdded gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma- Rhif 1

Fel rhan o Flwyddyn Llwybrau Croeso Cymru  ac mae mis Mai yn Mis Cerdded Cenedlaethol rydym wedi casglu rhai o’ch ffefrynnau ac fe fyddwn yn eu rhannu yn ystod mis Mai i roi ysbrydoliaeth a syniadau i’n darllenwyr i’w harchwilio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r ardal o amgylch.

Fe ddaw ein llwybr cyntaf gan staff gwych y Ganolfan Groeso yn y Capel yn Llangollen. Maent yn galw eu hunain yn ‘Dair Merch Canolfan Groeso Llangollen’ a gyda’i gilydd mae ganddynt 45 mlynedd o brofiad yn helpu ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn nhref brydferth Llangollen, Dyffryn Dyfrdwy a safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Llangollen.  Maent yn honni eu bod yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd a dyma pam maent wrth eu bodd â’u swyddi! Dyma eu hawgrym o gwmpas Llwybr Gwarchodfa Natur Gwenffrwd.

Dyma eu hawgrym o gwmpas Llwybr Gwarchodfa Natur Gwenffrwd.

Y Merched o’r Ganolfan Groeso yn cael seibiant enilledig

“Rydym yn aml yn cerdded yn ardal tref hynafol Llangollen, sydd yng nghesail dyffryn godidog Dyfrdwy yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a sydd â chysylltiadau da o’r prif draffyrdd.   Mae cludiant cyhoeddus yn hawdd, fodd bynnag, gyda phrif lein gorsaf Rhiwabon yn daith o ddim ond 15 munud gyda bws rhif 5 neu T3 – yn aml mae’n fws deulawr ac rwy’n hoffi eistedd ar y llawr uchaf gan ei bod yn haws i fwynhau’r golygfeydd o Gastell Dinas Brân, Creigiau Trefor a’r Panorama.   Os nad ydych wedi profi’r rhan yma o’r byd yna rhowch hynny ar eich rhestr nawr!

Dinas Bran Castle, Clwydian Range and Dee Valley AONB
Castell Dinas Brân, Bryniau Clwyd ac AHNE Dyffryn Dyfrdwy

Rydym wrth ein bodd â Llwybr newydd Gwarchodfa Natur Wenffrwd. Mae’r Warchodfa Natur wedi ei chreu ar gyn safle tirlenwi ac mae’n cynnig taith gylchol gyda golygfa anhygoel o afon Dyfrdwy. Mae natur wedi gwneud gwaith gwych yn adennill y safle gyda dolydd blodau gwyllt toreithiog, cyfleoedd i ystlumod glwydo, cartrefi i wenyn unig a mieri trwchus sy’n cynnig ardal ddiogel i adar nythu a chwilota. Does dim byd yr ydw i’n ei fwynhau fwy na chasglu mwyar duon, does dim rhaid i chi chwilio yn bell ac maent yn flasus iawn. Yn ddiweddar fe es i archwilio’r safle hwn sydd newydd agor drwy ddilyn llwybr yr Hen Lein Reilffordd sydd wedi cael arwyneb newydd a sy’n dechrau o Ganolfan Iechyd Llangollen ar yr A539. Cadwch lygad am y Ddraig, sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel Mossy ac sy’n gwarchod y fynedfa i’r llwybr. Mae’n rhyfedd ond mae’n wir –  yn dibynnu ar ba ongl yr ydych yn edrych ar Mossy fe all edrych yn ffyrnig neu fe all fod yn gwenu.

Wenffrwd, Llangollen

Wrth i ni gerdded i’r dref ar hyd y llwybr, mae’n cymryd tuag 20 munud. Rwy’n clywed yr adar yn canu, yn gweld pobl yn mynd â’u cŵn am dro, rwy’n mynd heibio i Gerflun y Ddraenen Wen, a gafodd ei greu gan Michael Johnson yn 2005 a sy’n arwydd o groeso i Langollen. Mae bod yn yr awyr agored yn gwneud i chi deimlo’n llawer gwell cyn cael diwrnod yn gweithio dan do. Rwy’n credu ei fod yn dda i’ch iechyd hefyd. Mae’r llwybr yn darparu llwybr gwastad a hardd sy’n rhydd o draffig i ac o Langollen gan ddechrau yn y Ganolfan Iechyd, gan ei wneud yn addas i’r rhai sy’n llai abl.

Mae yna faes parcio bach rhad ac am ddim yn y warchodfa natur neu os oes well gennych chi gludiant cyhoeddus mae yna arhosfan bws gyferbyn â’r maes parcio, ond byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd. Yn ystod y prif dymor gwyliau, fe allwch neidio ar Wasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy sy’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi o gwmpas gydag atyniadau lleol poblogaidd gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Plas Newydd a Bwlch yr Oernant. A gwell na hynny hyd yn oed mae deiliaid cerdyn bws yn cael gostyngiad ar y gwasanaeth hwn hefyd.

Horseshoe Falls near Llangollen
Rhaeadr yr Oernant ger Llangollen
Plas Newydd House and Tearooms in Llangollen
Plas Newydd yn Llangollen ac ystafelloedd te

Fe allwch hefyd ymestyn y llwybr.  Croeswch y ffordd gyferbyn â Wenffrwd ac ewch ar lwybr tynnu’r gamlas (pont rhif 42) at Landdyn.  Ewch yn ôl i gyfeiriad y dref gan fwynhau’r llwybr tawel a heddychlon hwn, mae’r dirwedd hardd yn ei gwneud yn anodd i ddychmygu’r cyfnod pan oedd glo a chalchfaen yn teithio i fyny ac i lawr y gamlas gyda chwch. O’r diwedd fe fyddwch yn cyrraedd Glanfa Llangollen, cartref y teithiau cychod ar y gamlas, lle gallwch fwynhau paned o de a chacen gartref haeddiannol iawn yn yr ystafelloedd te anhygoel hyn.”

 

Mae gan merched y Ganolfan Groeso gyfoeth o wybodaeth ac maent yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am eich ymweliad a chynnig cymorth gydag awgrymiadau am lefydd i aros.

Canolfan Groeso Llangollen.
Canolfan Groeso Llangollen.

Fe ddowch o hyd iddyn nhw yn Y Capel ar Stryd y Castell yn Llangollen.
Oriau agor

Dydd Llun
09:30 – 5pm
Dydd Mawrth
09:30 – 5pm
Dydd Mercher
09:30 – 5pm
Dydd Gwener
09:30 -5pm
Dydd Sadwrn
09:30 -5pm

Dydd Sul
09:30 – 4pm

Canolfan  Croeso Ymwelwyr Llangollen, Y Capel, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU
Ffôn: +44(0)1978 860828

Ebost: llangollen@nwtic.com

Ar y we:

https://www.facebook.com/LlangollenTIC