Dod i adnabod Ffordd y Gogledd
Mae Ffordd Gogledd Cymru yn dilyn hen ffordd fasnach am 75 milltir (120km) ar hyd arfordir y gogledd i Ynys Môn. Y triawd o gestyll anferth sy’n tynnu’r sylw’n syth: Biwmares, Caernarfon a chaer dinesig Conwy. Ynghyd â Harlech, mae’r clwstwr anhygoel hwn o gestyll o’r trydydd ganrif ar ddeg yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae nifer o gylchoedd a gwyriadau hefyd. O’r fan yma, gallwch fynd ar daith o fynyddoedd Eryri, y Fenai, a’n ynys fwyaf, Ynys Môn. Dyma’r porth i Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd, lle mae llinell o drefi marchnad hyfryd yn asgwrn cefn i’r ffordd i lawr i Langollen. Mae Ffordd Gogledd Cymru’n cysylltu’n rhwydd gyda’i chwaer Ffyrdd, cludiant cyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded o bellter hir.
Ffordd y Gogledd: Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru, gyda Ffordd y Gogledd yn ymestyn 25 milltir / 40km o’r ffin gyda Lloegr i gyrchfan gwyliau glan y môr y Rhyl, yn gartref i draethau tywodlyd, dyffrynnoedd afon coediog, cestyll canoloesol a threfi marchnad braf. Ymlwybrwch oddi ar y llwybrau arferol i ganfod brynceiri Oes Haearn dramatig, olion treftadaeth ddiwydiannol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Teithlenni
Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru, gyda’r themâu canlynol.
Mwy o Deithiau Teithio
Dadlwythwch ein PDFs llwybr.